O sgyrsiau a darlithoedd i drafodaethau a chyflwyniadau – gydag ambell sesiwn wobrwyo ac aduniad – mae Cymdeithasau’n ganolfan ganolog ar y Maes sy’n berffaith i ddod ag aelodau neu gefnogwyr pwnc neu gymdeithas ynghyd.
Eleni, mae dwy babell wedi’u lleoli ar Faes Eisteddfod Wrecsam, gyda phob sesiwn yn para am dri chwarter awr. Bydd y sesiynau’n cael eu ffilmio gyda’r recordiadau’n cael eu gosod ar blatfform YouTube yr Eisteddfod yn yr hydref.
Rydyn ni’n codi £150 y sesiwn ar sefydliadau cenedlaethol, cwmnïau a busnesau, gyda chymdeithasau lleol a grwpiau trydydd sector yn talu £100 am sesiwn. Mae’r pris yma'n cynnwys ein holl adnoddau technegol, ynghyd â rhestriad ar ein gwefan, yr ap ac yn y rhaglen swyddogol.
Gallwch archebu hyd at ddwy slot yn Cymdeithasau eleni.
Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar y Maes ym mis Awst.