Beth sydd ar gael eleni?
- Stondinau 3m x 6m: Uned arferol ar y Maes. Byddwn yn gosod rhesi o stondinau yn ôl yr arfer mewn ardal ganolog o'r Maes;
- Cytiau Pren 3m x 2.5m: Cytiau unigol. Bydd y rhain wedi'u gosod o amgylch y Maes yn ôl yr arfer;
- Stondinau 3m x 3m: Stondinau llai - perffaith ar gyfer busnes neu gwmni bach sy'n dod i'r Eisteddfod am y tro cyntaf. Bydd y rhain wedi'u gosod mewn rhesi mewn ardal ganolog o'r Maes;
- Strwythurau: Os hoffech chi drafod presenoldeb amgen ar y Maes eleni, cysylltwch â ni, stondinau@eisteddfod.cymru;
- Pentref Celf: Cytiau pren a stondinau 6m x 3m i'w gosod yn ardal Y Lle Celf.
Hwb y Trydydd Sector
Mae'r Hwb Trydydd Sector yn cael ei drefnu gan CCGC | AVOW a gall unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan o'r Hwb anfon at y cysyllltiadau isod:
- CCGC (sefydliadau elusennol cenedlaethol neu y tu allan i ardal Wrecsam): croberts@wcva.cymru
- AVOW (sefydliadau elusennol ardal Wrecsam): jane.edwards@avow.org
Ymholiadau: stondinau@eisteddfod.cymru | technegol@eisteddfod.cymru







Prisiau stondinau Eisteddfod Wrecsam
Lawrlwytho
Llawlyfr stondinau Eisteddfod Wrecsam
Lawrlwytho