Dyma ofod tawel aml-ffydd sy'n agored i unrhyw un sy'n dymuno gweddïo neu myfyrio yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod yn Wrecsam.

Lleolir yr ystafell weddïo yn agos at y Llecyn Llonydd a'r Hwb Hygyrchedd, i ffwrdd o brif fwrlwm y Maes. 

Mae'r ystafell ar agor drwy'r dydd bob dydd. Holwch yn yr Hwb Gwybodaeth neu'r ddesg ymholiadau am ragor o wybodaeth ar sut i gyrraedd yr ystafell.