Cylch yr Orsedd o dan awyr las gydag ambell gwmwl.  Ceir pafiliwn streipiog glas a melyn yn y cefndir

Dyw’r Orsedd ddim yn rhan o’r Eisteddfod ei hun – maen nhw’n gorff ar wahân – ond rydyn ni wedi bod yn cydweithio ers blynyddoedd lawer.  

Crëwyd yr Orsedd nol yn 1791 ar Fryn Briallu yn Llundain gan ddyn hynod o’r enw Iolo Morganwg, ac yna cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf flwyddyn a diwrnod yn ddiweddarach ym Mehefin 1792.  

Daw’r arfer o gynnal Seremoni Cyhoeddi’r Eisteddfod ganlynol o hyn, ac mae’n parhau hyd heddiw, gyda Chyhoeddi Eisteddfod 2025 wedi’i gynnal yn ddiweddar yn Wrecsam.  

Mae’r Orsedd yn chwarae rhan yn yr Eisteddfod ers 1819 felly dros 200 mlynedd.  

Mae prif enillwyr yr Eisteddfod yn derbyn y wisg wen, ac yna mae’r Orsedd yn anrhydeddu unigolion sydd wedi gwneud llawer mewn nifer o feysydd bob blwyddyn, gyda’r rheiny sydd wedi gwneud cyfraniad i’r celfyddydau’n derbyn y wisg werdd, a’r wisg las yn cael ei rhoi i’r rheiny sydd wedi gwneud cyfraniad i’r genedl.  

Mae ambell wyneb cyfarwydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd, ond mae’r rhan fwyaf o’r aelodau newydd yn bobl sydd wedi gweithio’n ddiwyd yn lleol am flynyddoedd.

Mae’r Orsedd hefyd yn cynnal tair seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr wythnos – y Coroni, ddydd Llun, Seremoni’r Fedal Ryddiaith ddydd Mercher a’r Cadeirio ddydd Gwener – ac mae’r rhain i gyd yn cychwyn am 16:00, er mae angen bod yn eich sedd ymlaen llaw.  

Yr Archdderwydd – pennaeth yr Orsedd – sy’n gyfrifol am y seremonïau hyn, ac eleni mae gennym ni Archdderwydd newydd, Mererid Hopwood.

Os yw’r tywydd yn wael, cynhelir y seremonïau i anrhydeddu aelodau newydd yn y Pafiliwn.

Cliciwch ar y dolenni ar waelod y dudalen i weld pwy sy’n cael eu hanrhydeddu eleni.