Manylion y cystadlaethau alawon gwerin, y ffurflen gais a'r rheolau ac amodau i gyd.
1. Côr Alaw Werin dros 20 mewn nifer
(a) Unsain: ‘Tribannau Morgannwg’, Ffylantin-tŵ [Sain]
(b) Trefniant i 3 neu fwy o leisiau o unrhyw gân werin draddodiadol wrthgyferbyniol ac eithrio’r rhai a osodwyd yn yr adran hon eleni
Cynhelir y gystadleuaeth hon ddydd/nos Wener 10 Awst 2018
Gwobrau:
1. Tlws Parti’r Ffynnon i’w ddal am flwyddyn a £500 (Côr Merched Canna)
2. £300
3. £200
--------------------
2. Parti Alaw Werin hyd at 20 mewn nifer
(a) Unsain: ‘Jail Caerdydd’ (3 phennill) [Swyddfa’r Eisteddfod]
(b) Trefniant i 2, 3 neu 4 llais o unrhyw gân werin draddodiadol wrthgyferbyniol ac eithrio’r rhai a osodwyd yn yr adran hon eleni
Gwobrau:
1. Tlws Rhianedd Môn i’w ddal am flwyddyn a £300 (Eglwys Gymraeg yr Annibynnwyr, Loveday Street, Birmingham)
2. £200
3. £100
--------------------
3. Parti Alaw Werin dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer
(a) Unsain: ‘Y Deryn Pur’, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg [CAGC]
(b) Trefniant i 2, 3 neu 4 llais o unrhyw gân werin draddodiadol wrthgyferbyniol ac eithrio’r rhai a osodwyd yn yr adran hon eleni
Gwobrau:
1. £150
2. £100
3. £50 (Owen Saer, Y Tyllgoed)
--------------------
--------------------
5. Unawd Alaw Werin 16 ac o dan 21 oed
(a) Bechgyn: ‘Pe cawn i hon’ [Swyddfa’r Eisteddfod (Boosey & Hawkes)]
Merched: ‘Os daw fy nghariad’, Caneuon Traddodiadol y Cymry [Argraffiad diwygiedig] [Gwynn 8403]
(b) Unrhyw gân werin draddodiadol wrthgyferbyniol ac eithrio’r rhai a osodwyd yn yr adran hon eleni, i’w canu yn y dull traddodiadol, yn ddigyfeiliant.
Gwobrau:
1. Medal Goffa J. Lloyd Williams (Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru) a £75 (Delyth Medi, Llandaf)
2. £50
3. £25
Bydd yr enillydd yn cael cyfle i fynychu cynhadledd flynyddol Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn Aberystwyth ar 22-23 Medi 2018 ar gost y Gymdeithas, yn ogystal â chael perfformio yn y noson.
--------------------
6. Unawd Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed
Naill ai:
(i) ‘Cân y Cathreiniwr’, Caneuon Llafar Gwlad 1 [Swydfa’r Eisteddfod (Amgueddfa Werin Cymru)]
Neu
(ii) ‘Ffair Henfeddau’, Canu’r Cymry 2 [CAGC]
Gwobrau:
1. £60
2. £30
3. £20
--------------------
‘Y Fasged Wye’ [Swyddfa’r Eisteddfod]
Gwobrau:
1. £50 (Delwyn Tibbott, Llandaf)
2. £25
3. £15
--------------------
8. Cyflwyniad ar lafar, dawns a chân: Môr
Rhaid cynnwys o leiaf dair elfen o blith y pump a nodir, sef alawon gwerin traddodiadol, cerdd dant, dawns, drama a llefaru i greu perfformiad dychmygus. Ni ddylai’r cyflwyniad fod yn hwy na 10 munud, yn cynnwys paratoi a chlirio’r llwyfan. Caniateir defnyddio symudiadau, gwisgoedd a mân offer llwyfan. Dylid anfon braslun o’r sgript erbyn 1 Gorffennaf 2018 a chopi llawn erbyn yr Eisteddfod.
(Gwelir y gystadleuaeth hefyd yn adrannau Cerdd Dant, Dawns, Drama a Llefaru)
Gwobrau:
1. Tlws Parti’r Ffynnon i’w ddal am flwyddyn a £350 (Teulu Jack a Jean Williams, Llanddona)
2. £250
3. £150
--------------------
Trefniant heb fod yn hwy na 7 munud o ganeuon gwerin neu geinciau traddodiadol Cymreig ar gyfer cyfuniad o offerynnau gwerin neu offerynnau gwerin a lleisiau. Rhoddir pwyslais ar natur draddodiadol y perfformiad.
Gwobr:
£300 (Ysgol y Gadeirlan, Llandaf) i’w rannu yn ôl dymuniad y beirniaid
Cystadlaethau yn y Tŷ Gwerin
--------------------
Rhaglen o ganeuon gwerin neu geinciau traddodiadol Cymreig heb fod yn hwy na 5 munud. Rhoddir pwyslais ar dechneg, arddull a dehongliad traddodiadol Cymreig.
Gwobrau:
1. Tlws Coffa John Weston Thomas i’w ddal am flwyddyn a £75
2. £50
3. £25
(£150 Delwyn Tibbott, Llandaf)
--------------------
11. Cyflwyno Cân Werin hunangyfeiliant
Hunanddewisiad. Nodir ei bod hi’n ofynnol i’r cystadleuydd gyflwyno’r darn ar lafar, rhoi ychydig o gefndir - y geiriau, yr alaw, cyn ei chanu. Bydd y cyfan yn cael ei feirniadu.
Bydd rhaid cofrestru ar y diwrnod o leiaf awr cyn y gystadleuaeth. Nifer cyfyngedig, felly cynta’ i’r felin. Cynhelir y gystadleuaeth yn y Tŷ Gwerin. (Nid oes angen cofrestru erbyn Mai 1af)
Gwobrau:
1. £75 (Meurig Williams, Rhydwaedlyd, Caerdydd)
2. £50
3. £25
--------------------
149. Cystadleuaeth Dweud Stori
Cystadleuaeth agored i unigolion o bob oed.
Cyflwyno stori yn seiliedig ar chwedl neu stori traddodiadol o Gymru (hynafol neu gyfoes). Dylai’r stori apelio at gynulleiddfa gymysg gan ddangos dawn y storïwr i ddiddanu a hoelio sylw’r gynulleidfa. Caniateir defnyddio gwisgoedd a mân gelfi cludadwy os dymunir. Ni ddylai’r cyflwyniad fod yn hwy nag 8 munud.
Ni ddylid cyflwyno sgript ymlaen llaw.
Bydd rhaid cofrestru ar y diwrnod o leiaf awr cyn y gystadleuaeth. Nifer cyfyngedig, felly cynta’ i’r felin. Cynhelir y gystadleuaeth yn y Tŷ Gwerin. (Nid oes angen cofrestru erbyn Mai 1af)
Gwobrau:
1. £100 (Wales Environmental Cyf.)
2. £60
3. £40
(Mae'r gystadleuaeth hon hefyd yn ymddangos yn yr Adran Lefaru)
--------------------
Beirniaid
Lleisiol: Caryl Ebenezer, Rhiannon Ifans, Pat Jones, Leah Owen
Offerynnol: Stephen Rees