pedwar person yn ymlacio y tu allan i garafan ar faes carafanau Eisteddfod 2023
gwybodaeth ar sut i gyrraedd y maes carafanau o wahanol gyfeiriadau

Cyrraedd y safle

Mae Pontypridd yn dref brysur ar y gorau, a gall traffig fod yn broblem ar ddiwrnod arferol. 

Rydym am sicrhau nad ydym yn ychwanegu at y broblem, ac nad yw ein hymwelwyr yn cael trafferth cyrraedd gyda charafanau.

Dilynwch y cyfarwyddiadau isod, a chofiwch osgoi canol y dref yn ystod cyfnodau prysur. 

Rydym yn gofyn i garafanwyr anelu at gyrraedd Pontypridd rhwng 18:30 a 20:30, nos Iau neu nos Wener, rhwng 10:00 a 15:30 ddydd Gwener, neu rhwng 08:00 a 20:30 ddydd Sadwrn.

Bydd y tîm ar gael i osod carafanau yn ystod yr oriau agor arferol, ond rydym yn gofyn am eich cydweithrediad i dorri i lawr ar draffig.

Cliciwch ar y bocs pinc ar waelod y dudalen i rannu manylion cyrraedd gyda ni.

Teithio o'r gogledd (teithio i'r de ar yr A470)
Cymerwch yr allanfa am yr A4223 (Pontypridd). Ar waelod y slipffordd, cymerwch y lôn dde ar gyfer canol y dref ac ewch ymlaen i'r gylchfan. 

Cymerwch allanfa'r A4223 (Pontypridd). Ewch ymlaen ar hyd Stryd y Bont, dros y bont cyn troi i'r dde i'r B4273 (Heol Berw). Parhewch tua'r gogledd ar Heol Berw nes i chi gyrraedd y fynedfa i'r maes carafanau, a fydd wedi'i arwyddo oddi ar y ffordd.

Teithio o'r de (teithio i'r gogledd ar yr A470)
Cymerwch Gyfnewidfa Broadway. Ar y slipffordd, arhoswch / cymerwch y lonydd chwith ac ewch ymlaen at y gylchfan a chymerwch yr allanfa gyntaf tuag at ganol y dref. 

Ar ôl cyrraedd cyfnewidfa Stryd y Bont, ewch i mewn i'r gylchfan a chymerwch yr allanfa gyntaf i Stryd y Bont. Ewch ymlaen ar hyd Stryd y Bont, dros y bont cyn troi i'r dde i'r B4273 (Heol Berw). Parhewch tua'r gogledd ar Heol Berw nes i chi gyrraedd y fynedfa i'r maes carafanau, a fydd wedi'i arwyddo oddi ar y ffordd.

Traffig o'r gorllewin (teithio i'r dwyrain ar yr A4058 Ffordd Cymer)
Bydd traffig yn cael ei gyfeirio i'r chwith i Heol Rhondda. Ar ôl cyrraedd y gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf i Heol Gelliwastad, cyn troi i'r chwith i'r B4273 (Heol Berw). Parhewch tua'r gogledd ar Heol Berw nes i chi gyrraedd y fynedfa i'r maes carafanau, a fydd wedi'i arwyddo oddi ar y ffordd.

Teithio o’r maes carafanau a gwersylla i’r Maes

Mae teithio o ben pellaf y safle i'r brif fynedfa yn llai na hanner milltir o bellter gyda'r daith yn cymryd llai na 20 munud, ar hyd llwybr dynodedig diogel a phwrpasol i feicwyr a cherddwyr. Nid oes gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg o'r safle i'r Maes eleni.

 

Llwybr cerdded dynodedig o'r maes carafanau i ganol Pontypridd ar hyd Heol Berw, Eisteddfod 2024

Ymwelwyr anabl ar y maes carafanau 

Rhowch wybod ar y ffurflen isod os oes gennych chi anghenion symudedd neu fathodyn glas, er mwyn i ni gysylltu gyda rhagor o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth wrth fynd nôl a blaen i'r Maes yn ystod y dydd a chyda'r nos. 

Bydd y rheini sy'n cofrestru ymlaen llaw yn gallu defnyddio ein gwasanaeth cludo arbennig rhwng y Maes a'r maes carafanau a gwersylla.

Os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn neu ag anghenion symudedd dwys, gallwch hefyd ddefnyddio eich car i deithio i faes parcio Santes Catherine sy’n agos at y Maes a dychwelyd i’r maes carafanau a gwersylla ar ddiwedd y dydd.

Mae gennym ni gawodydd a thoiledau addas ar gyfer ymwelwyr anabl ar y safle.

Adnoddau 

Mae siop drwyddedig ar y maes carafanau'n gwerthu bwyd a diod o bob math.

Maes B

Mae Maes B wedi’i leoli’n agos at y maes carafanau eleni, gan ei wneud yn hawdd a diogel i bobl ifanc sy’n aros ar y maes carafanau a gwersylla i ddychwelyd yno ar ddiwedd y nos. 

Rydyn ni’n ymwybodol ac yn gwerthfawrogi fod hyn yn bwysig i rieni, yn enwedig y rheini sydd â’u plant yn ymweld â Maes B am y tro cyntaf, ac rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi nad yw’r rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n aros ar y safle yn adnabod ardal Pontypridd yn dda.

Sut i gyrraedd y maes carafanau a gwersylla o wahanol gyfeiriad Lawrlwytho
Sut i gerdded o'r maes carafanau a gwersylla i'r Maes Lawrlwytho