Coron 2019
28 Medi 2023

Heddiw, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol fanylion y briff i greu Cadair a Choron prifwyl 2024 a gynhelir yn ardal Rhondda Cynon Taf

Mae’r ddwy wobr yn cael eu cyflwyno gan ysgolion lleol, gyda’r Gadair yn rhoddedig gan Ysgol Llanhari, a’r Goron  Goron yn rhoddedig gan Ysgol Garth Olwg.

Yn ôl Meinir Thomas, Pennaeth Ysgol Llanhari, mae’r cyfle i noddi’r Gadair eleni yn ‘fraint’, a chyda’r Gadair a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan ddisgyblion a chymuned yr ysgol i ddathlu 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn ardal Rhondda Cynon Taf, dywed Mrs Thomas, “Bydd Ysgol Llanhari yn dathlu 50 mlynedd o gynnig addysg Gymraeg yng nghornel De-orllewinol y Sir yn 2024. Agorwyd Ysgol Gyfun Llanhari yn 1974, un o ysgolion cyfrwng Cymraeg cynharaf y De Ddwyrain ac ers 2012, bu’n ysgol bob oed lwyddiannus i ddisgyblion rhwng 3 ac 19 mlwydd oed. 

"Braf fydd y cyfle nawr i’r disgyblion presennol fod yn rhan o’r bwrlwm eisteddfodol a dathlu eu hunaniaeth wrth inni gyrraedd y garreg filltir bwysig hon fel ysgol, yn yr un flwyddyn ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r ardal.”

“Un o ddisgyblion cynharaf yr ysgol oedd y Prifardd Mererid Hopwood, y ferch gyntaf i gipio’r Gadair a hithau wrth gwrs fydd yr Archdderwydd newydd yn 2024. Mae’n addas felly bod Ysgol Llanhari yn rhan ganolog o un o uchafbwyntiau seremoniol yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf. 

“Mae seremoni’r Cadeirio yn uchafbwynt blynyddol yn yr Eisteddfod Ysgol, ac yn draddodiad sy’n ennyn parch a chwilfrydedd disgyblion ein hysgol bob oed. Sicrheir rôl i bawb yn y dathliad, o ddawns werin gyfarch y disgyblion cynradd i’r cyrchwyr o’r chweched dosbarth. 

“Mae disgyblion a staff Ysgol Llanhari nawr yn edrych ymlaen at gyd-weithio â dylunydd a gwneuthurwr Cadair Eistedfod Rhondda Cynon Taf dros y flwyddyn nesaf er mwyn gwireddu prosiect cyffrous a fydd yn dathlu tirwedd, diwylliant a hanes yr ardal ynghyd â chyfraniad addysg Gymraeg i’w bro.”

Mae staff a disgyblion Ysgol Garth Olwg yn edrych ymlaen at gyflwyno’r Goron a’r wobr ariannol eleni, ac yn ôl yr ysgol, mae pwysigrwydd addysg Gymraeg wedi’i wreiddio’n ddwfn yn yr ardal hon ac ymfalchïwn mai yma ym Mhontypridd agorwyd yr Ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf yn y de yn 1962. Yn y cyfnod hynny roedd disgyblion yn teithio o bob man yn y de i dderbyn addysg Gymraeg yn Rhydfelen, a braf fydd croesawu Cymru gyfan yn ôl i'r ardal ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Esgorodd lwyddiant y cyfnod yma ar yr holl ysgolion Cymraeg sydd yn ne Cymru heddiw a mawr yw ein diolch i rieni’r ardal am roi eu ffydd barhaus mewn addysg Gymraeg. Rhaid hefyd dathlu llwyddiant yr holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg gan gynnwys Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg. Bellach, Ysgol Garth Olwg sy'n gwasanaethu'r ardal arbennig hon ac mae ein hysgol 3-19 yn mynd o nerth i nerth gan sicrhau addysg Gymraeg o'r safon uchaf i blant a phobl ifanc ardal Pontypridd. 

Mae’r ysgol yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r gwneuthurwr i roi syniadau a gweledigaeth y disgyblion ar waith ac mae cyffro yn yr ysgol yn barod at baratoadau’r Eisteddfod yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae’r ysgol wedi meithrin sawl bardd sydd wedi ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol ac felly pleser i’r ysgol yw medru noddi Coron ein heisteddfod leol ni.

Mae manylion briff y Gadair a’r Goron ar gael yma, ynghyd â sut i ddatgan diddordeb a chyflwyno syniadau i’w hystyried gan Fwrdd yr Orsedd.  Y dyddiad cau yw 17:00 dydd Gwener 13 Hydref.

Briff Coron 2024

Briff Cadair 2024