Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o wyliau celfyddydol mwyaf Ewrop, yn denu dros 170,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Bydd yn dychwelyd i Wrecsam am y tro cyntaf ers 2011 ym mis Awst 2025.
Ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl mae’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd a berfformir yn seremonïau’r Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun ac yng Ngŵyl y Cyhoeddi a gynhelir ym mis Ebrill 2024.
16 o blant ysgolion uwchradd y dalgylch fydd yn perfformio’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd, ac estynnir gwahoddiad i ddisgyblion sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn 7 ysgolion Wrecsam i fynychu clyweliad er mwyn dewis sgwad o tua 20. Mae croeso i unrhyw ddisgybl lleol o fewn y cwmpas oedran ymgeisio.
Mae cymryd rhan yn y Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd yn brofiad bythgofiadwy. Mae’n cael ei pherfformio i bafiliwn llawn yn ystod seremonïau’r Coroni a’r Cadeirio yn ystod yr Eisteddfod a hefyd yn cael ei darlledu’n fyw ar y teledu. Mae’n brofiad gwefreiddiol i’w drysori.
Bydd angen i’r dawnswyr llwyddiannus fynychu ymarferion wythnosol tan y Cyhoeddi, a hefyd yn ystod y cyfnod rhwng tua Ebrill a'r Eisteddfod yn 2025. Cynhelir y clyweliadau yn fuan yn y flwyddyn newydd, gyda’r amser a’r lleoliad i’w gadarnhau.
Dyma gyfrifoldebau’r rhieni | gwarcheidwaid a’r dawnswyr wrth gyflawni’r gwaith:
- Rhaid i'r rhai a ddewisir fod yn byw yn nalgylch sirol Wrecsam
- Cynhelir ymarferion yn ystod y misoedd cyn y Cyhoeddi yng ngwanwyn 2024 a’r Eisteddfod ym mis Awst 2025, a disgwylir i’r dawnswyr fynychu’n ffyddlon.
- Disgwylir i'r dawnswyr fod yn bresennol yn yr holl seremonïau a gynhelir fel a ganlyn: Cyhoeddi'r Eisteddfod, a'r tair seremoni yn ystod wythnos yr Eisteddfod ddechrau Awst 2025.
- Cyfrifoldeb y rhieni | gwarcheidwaid fydd cludo’r dawnswyr i’r ymarferion a’r seremonïau. Y rhieni | gwarcheidwaid hefyd fydd yn gyfrifol am y dawnswyr ar ddiwrnodau’r seremonïau.
- Bydd yr Eisteddfod yn darparu gwisg.