Tusw o flodau'r meysydd ar gefndir glas a gwyrdd

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o wyliau celfyddydol mwyaf Ewrop, yn denu dros 170,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Fe'i cynhelir yn ardal Sir Benfro ym mis Awst 2026. 

Ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl mae’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd a berfformir yn seremonïau’r Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun ac yng Ngŵyl y Cyhoeddi a gynhelir ddydd Sadwrn 17 Mai 2025.

16 o blant ysgolion uwchradd y dalgylch fydd yn perfformio’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd, ac estynnir gwahoddiad i ddisgyblion sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn 7 ac 8 yn nalgylch yr Eisteddfod i fynychu clyweliad er mwyn dewis sgwad o tua 20.   Mae croeso i unrhyw ddisgybl lleol o fewn y cwmpas oedran ymgeisio.

Mae cymryd rhan yn y Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd yn brofiad bythgofiadwy. Mae’n cael ei pherfformio i bafiliwn llawn yn ystod seremonïau’r Coroni a’r Cadeirio yn ystod yr Eisteddfod a hefyd yn cael ei darlledu’n fyw ar y teledu. Mae’n brofiad gwefreiddiol i’w drysori.

Cynhelir y clyweliadau yn Neuadd y Farchnad, Crymych nos Lun 27 Ionawr o 17:00 - 19:00.

Bydd angen i’r dawnswyr llwyddiannus fynychu ymarferion wythnosol tan y Cyhoeddi, bob nos Lun o 17:00 - 19:00 o nos Lun 10 Chwefror ymlaen. Cynhelir y rhain  hefyd yn Neuadd y Farchnaf, Crymych. Cynhelir yr ymarferion ar gyfer yr Eisteddfod ei hun yn ystod y cyfnod rhwng tua Ebrill a'r Eisteddfod yn 2026.  

Dyma gyfrifoldebau’r rhieni | gwarcheidwaid a’r dawnswyr wrth gyflawni’r gwaith:

  • Rhaid i'r rhai a ddewisir fod yn byw yn nalgylch yr Eisteddfod.
  • Cynhelir ymarferion wythnosol yn y misoedd cyn y Cyhoeddi yng ngwanwyn 2025 a’r Eisteddfod ym mis Awst 2026 (gweler uchod) a disgwylir i’r dawnswyr fynychu’n ffyddlon.   
  • Disgwylir i'r dawnswyr fod yn bresennol yn yr holl seremonïau a gynhelir fel a ganlyn:  Cyhoeddi'r Eisteddfod, a'r tair seremoni yn ystod wythnos yr Eisteddfod ddechrau Awst 2026.
  • Cyfrifoldeb y rhieni | gwarcheidwaid fydd cludo’r dawnswyr i’r ymarferion a’r seremonïau. Y rhieni | gwarcheidwaid hefyd fydd yn gyfrifol am y dawnswyr ar ddiwrnodau’r seremonïau.
  • Bydd yr Eisteddfod yn darparu gwisg.

Dyddiad cau i ymgeisio: 23 Ionawr 2025