Coron yr Eisteddfod i Catrin Dafydd
6 Awst 2018

Un o feirdd a llenorion ifanc mwyaf cyffrous Cymru yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.  

Mae Catrin Dafydd yn ennill y Goron am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau, ar y testun Olion. Y beirniaid oedd Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies, mewn cystadleuaeth a ddenodd 42 o geisiadau.

Llwyddodd 14 o feirdd i gyrraedd dosbarth cyntaf o leiaf un o’r beirniaid, gyda’r tri beirniad yn gytun bod pump yn cyrraedd brig y gystadleuaeth eleni.  Wrth draddodi’r feirniadaeth dywedodd Christine James, “Er nad oeddem fel beirniaid yn gwbl unfryd ynghylch safle pob bardd yn y gystadleuaeth, roeddem yn bur gytun o’r cychwyn ynghylch y goreuon.

Ac er bod “pob un hefyd yn syrthio’n brin o’i safonau uchaf ei hunan ar brydiau”, roedd y beirniaid hefyd yn gytun bod tri o’r pump yn deilwng o’r Goron eleni, gyda chasgliad Yma yn dod i’r brig o drwch blewyn.

“Cymreictod ‘cymysg’ Trelluest (Grangetown) – yr ardal sydd am yr afon â safle’r Eisteddfod eleni – yw testun y casgliad hwn. Ynddo, fe’n cyflwynir trwy gyfres o fologau dramatig i gymuned o gymeriadau a osodwyd ar ‘fap’ o strydoedd lleol

“Gall Yma ganu’n dyner, ond hefyd â’i dafod-yn-y-boch, fel yn y gerdd ‘Jentrifficeshyn’, sy’n codi cwestiynau dilys ynghylch beth yn union sy’n digwydd pan fydd Cymry Cymraeg yn ‘coloneiddio’ rhan o’r ddinas.

“Dyma gasgliad amserol ac apelgar o obeithiol gan fardd sy’n lladmerydd huawdl dros Gymreictod cymysg, byrlymus y brifddinas.”

Yn wreiddiol o Waelod y Garth, graddiodd Catrin Dafydd yn Aberystwyth lle'r oedd hi’n Llywydd UMCA o 2003-2004.  Erbyn hyn mae ‘n byw yng Nghaerdydd, ac yn aelod o dîm ysgrifennu Pobol y Cwm.  Mae’n awdur pum nofel, gyda’r diweddaraf, Gwales, a enillodd Wobr Ffuglen cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.  Ei nofelau eraill yw Pili Pala, Y Tiwniwr Piano, Random Deaths and Custard a Random Births and Love Hearts.

Bu'n olygydd ar gylchgrawn Tu Chwith a Dim Lol ac yn 2011, roedd ymhlith y beirdd a sefydlodd nosweithiau annibynnol Bragdy'r Beirdd, a bydd hi’n diflannu’n syth ar ôl y seremoni heddiw i baratoi ar gyfer y Siwper Stomp ar lwyfan y Pafiliwn heno, lle bydd yn perfformio gyda gweddill criw’r Bragdy. 

Mae'n ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a mudiadau eraill ac yn aelod o'r tîm sy'n hyrwyddo Diwrnod Shw’mae Sumae er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru.

Yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd y cyfansoddwyd talp helaeth o'r cerddi.  Dymuna Catrin hir oes i'r mannau hynny sydd â'u drysau yn agored i'r cyhoedd: mannau lle mae llyfrau, hanes a chelf ar gael i bawb – yn rhad ac am ddim.

Mae Catrin yn ddiolchgar i’w chariad, Dyfed, am y sgyrsiau, y chwerthin ac am ei hannog i ddal ati gyda cherddi'r Goron yn ystod misoedd oer y gaeaf.

Rhoddir y Goron gan Brifysgol Caerdydd, a daw'r wobr ariannol gan Manon Rhys a Jim Parc Nest, â diolch ac er cof.  Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Laura Thomas, Castell-nedd. Mae Laura wedi treulio dros 400 awr yn cynhyrchu coron unigryw sy'n fodern ac eto'n parchu traddodiadau'r Eisteddfod.

Deilliodd ei hysbrydoliaeth ar gyfer y dyluniad o'i thechneg adnabyddus – gwaith parquet – lle mae'n gosod argaenau pren mewn arian pur. Mae'r Goron yn cynnwys dros 600 o argaenau chweochrog, pob un wedi'i hychwanegu â llaw.

Mae’r Goron yn cynnwys pum math o argaenau pren – a dorrwyd yn fanwl gywir – wedi'u gosod â llaw mewn arian sydd wedi'i strwythuro mewn modd geometrig, cyn eu cydosod i greu'r strwythur.  Roedd Laura am i'r Goron adlewyrchu'r defnydd o argaenau cynaliadwy sy'n adleisio datblygiad parhaus technolegau cynaliadwy yn ardal Caerdydd – megis cynhyrchu pŵer sy'n seiliedig ar fio-màs.

Daeth Laura i'r brig mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd, a ddenodd nifer o ddylunwyr o'r radd flaenaf.

Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod ar ôl y seremoni, a bydd modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym Mae Caerdydd tan 11 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.