Heddiw (26 Tachwedd), bu Cyngor yr Eisteddfod yn trafod llwyddiant gŵyl Sir Fynwy a’r Cyffiniau, gan glywed i’r wythnos adael gweddill o dros £6,000.
Wrth gyflwyno’i adroddiad olaf i Gyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Frank Olding, “Bu’n bleser mawr croesawu Cymru i Sir Fynwy a’r Cyffiniau dros yr haf, ac rwy’n falch i gynifer o bobl gael blas ar yr ardal a mwynhau’r hyn oedd gan yr Eisteddfod a’r sir i’w gynnig.
“Roedd hi’n Eisteddfod arbennig, yn wythnos hapus ac yn gyfnod na fydda i a’r criw prysur o wirfoddolwyr a fu wrth’n lleol byth yn ei anghofio. Rhoddwyd her i ni fynd ati i baratoi, trefnu a chynnal yr Eisteddfod, a dyna wnaethon ni, yn frwdfrydig a llawn hiwmor.
“Eleni, cawsom gyfle i ddangos ein hardal i Gymru gyfan, i brofi bod modd cynnal Eisteddfod lewyrchus a llwyddiannus mewn ardal lai traddodiadol Gymraeg ei hiaith
“Braf yw cyhoeddi i’r Eisteddfod lwyddo’n ariannol hefyd. Oedd, roedd hi’n risg dod â’r Eisteddfod i’r Fenni, ardal nad oedd wedi bod yn gartref iddi ers dros ganrif, ond fe gafwyd cefnogaeth ardderchog gan Gymry Cymraeg a di-gymraeg, gyda phawb yn frwd i sicrhau llwyddiant yr wythnos. Diolch o galon i bawb am bob cefnogaeth.
“Mae perthynas dda gyda’r cyngor lleol yn hollbwysig i lwyddiant yr Eisteddfod, a chafwyd hynny gyda Chyngor Sir Fynwy eleni. Dyma gyngor a benderfynodd o’r cychwyn y byddai’r Eisteddfod yn llwyddo, a diolch am eu gweledigaeth a’u cydweithrediad ar hyd yn daith, o’r trafodaethau cyntaf dros ddegawd yn ôl hyd at heddiw. Bu eu cefnogaeth wrth godi arian a sicrhau ein bod yn cyrraedd nod y Gronfa Leol yn hwb enfawr i’r gwaith eleni.
“Roeddwn i wrth fy modd yn gweld cynifer o bobl leol wedi dod atom yn ystod yr wythnos, a nifer fawr yn dychwelyd i’r Maes ar y penwythnos olaf. Mae’r gwaddol eisoes ar gychwyn gyda galw mawr am wersi Cymraeg yn lleol, a gobeithio wir y bydd y galw yma’n parhau ac yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod.
“Daeth dros 140,000 o bobl draw i faes hyfryd Dolydd y Castell a oedd mor agos at ganol tref Y Fenni. A phawb wrth eu boddau gyda Maes ychydig yn wahanol, yn llawn llecynnau cudd a fyddai’n cael eu hamlygu ar adegau’n ystod yr wythnos. Roedd rhaid crwydro er mwyn gweld popeth a phawb yn cael hyd i gornel neu lecyn bach newydd wrth gerdded y Maes.
“Mae heddiw’n gyfle i ni fel tîm ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r Eisteddfod, yn ymwelwyr, trigolion lleol, cystadleuwyr, stondinwyr ac unedwyr a’r llu o wirfoddolwyr a ddaeth i’n helpu yn ystod yr wythnos, ynghyd â’n holl bartneriaid, noddwyr a chefnogwyr hael.
“Ond, mae fy niolch mwyaf i’r tîm a fu’n cydweithio gyda mi am y ddwy flynedd ddiwethaf. Tîm bychan a chlos, yn llawn syniadau am weithgareddau a digwyddiadau o bob math, a phawb yn awyddus i ni ddangos ein sir arbennig ar ei gorau. Credaf i ni lwyddo i wneud hyn, a’i rhannu gyda phobl o bob oed ac o bob ardal, a hynny yn ystod wythnos hynod hapus a fydd yn aros yn ein cof am flynyddoedd i ddod.”
Roedd cyfarfod y Cyngor hefyd yn gyfle i drafod elfennau o’r Eisteddfod mewn manylder fel rhan o’r gwerthusiad blynyddol o’r prosiect cymunedol a’r ŵyl ei hun. Ymysg y pethau a gafodd sylw yn yr adroddiad eleni oedd codi arian a nawdd, cystadlaethau, y pafiliwn newydd a’r rhaglen gyngherddau, yr is-bafiliynau, Maes B, y Maes a’r maes carafanau, gwirfoddoli, cyfathrebu a thocynnau.