Baner yr Orsedd yn ystod un o seremonïau Eisteddfod 2023
16 Mai 2024

Gyda 75 diwrnod yn unig i fynd tan gychwyn y Brifwyl, heddiw (20 Mai), cyhoeddir enwau'r rheini fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  

Braf yw cael cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd fore Llun 5 Awst a bore Gwener 9 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. 

Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheini sy’n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  

Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd.  Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddarllen am y rheini sy'n cael eu hanrhydeddu eleni.