Sir Benfro fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2026
Bydd y prosiect cymunedol a’r paratoadau ar gyfer yr ŵyl yn cychwyn gyda chyfarfod cyhoeddus nos Iau 10 Hydref yn Theatr y Gromlech, Crymych am 19:00, gyda chyfle i bawb sydd am fod yn rhan o’r trefnu i ddod at ei gilydd am sgwrs a chlywed mwy am y cynlluniau sydd ar y gweill.
Bydd y dalgylch hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a Sir Gaerfyddin, sy’n ffinio gydag ardal Sir Benfro, ac mae hyn yn arbennig o briodol, gan y bydd yn gyfle i ddathlu 850 mlyneddd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal yr Eisteddfod yn Sir Benfro ymhen dwy flynedd, ac at weithio mewn ffordd cwbl newydd gan ddod â rhannau o dair sir at ei gilydd i greu prosiect a gŵyl sy’n ddathliad o’n hiaith a’n diwylliant yn lleol a chenedlaethol.
“Rydyn ni eisoes wedi cychwyn gweithio gyda Chyngor Sir Benfro fel yr awdurdod arweiniol, ac yn falch iawn i gydweithio gyda chynghorau Ceredigion a Sir Gâr eto. Mae’n gyfle i ni weithio ar Eisteddfod mewn ffordd newydd, gan fanteisio ar arbenigedd tîm o awdurdodau lleol.
“Bydd hyn yr un mor wir ar lawr gwlad, a byddwn yn amlinellu’r dalgylch a’r cyfleoedd sydd ar gael i ymuno â ni dros y ddwy flynedd nesaf yn y cyfarfod cyhoeddus ddechrau Hydref.
“Dydyn ni heb fod yn Sir Benfro ers 2002, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal a roddodd gymaint o groeso i ni pan gynhaliwyd yr ŵyl yn Nhyddewi bryd hynny.
“Mae nifer fawr o gyfleoedd ar gael, yn trefnu a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol yn ogystal â’r gwaith o gynnig syniadau ar gyfer ein cystadlaethau a rhaglen yr wythnos. Dewch i weld beth sydd ar gael ac i drafod sut y gallwn ni gydweithio i greu prosiect a gŵyl i’w cofio yn yr ardal. Mae croeso mawr i bawb o bob oed.”
Gallwch gofrestru i gymryd rhan ar-lein nawr, Eisteddfod 2026 | Eisteddfod. Rydyn ni hefyd wedi agor enwebiadau ar gyfer swyddogion y Pwyllgor Gwaith, sef y Cadeirydd, Is-gadeirydd strategol, Is-gadeirydd diwylliannol, Ysgrifennydd a Chadeirydd y gronfa leol, ynghyd â hwyluswyr ar gyfer ein pwyllgorau eraill a’r dyddiad cau ar gyfer y rhain yw nos Wener 19 Hydref.
Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus, bydd y gwaith o ddewis cystadlaethau ar gyfer y Rhestr Testunau ynghyd â’r prosiect cymunedol yn cychwyn, cyn i’r gwaith ar y rhaglen artistig gychwyn yn y flwyddyn newydd. Bydd cyfle i glywed mwy am hyn yn y cyfarfod cyhoeddus.