Beirniaid: Aled Phillips, Brian Hughes a Jean Stanley Jones

Rhaglen hunanddewisiad adloniannol, hyd at 12 munud o hyd, o drefniannau corawl yn yr arddulliau canlynol: pop, roc, sioe gerdd, jazz, gospel a/neu emyn, gwerin a/neu ganeuon ysgafn Cymreig. Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl.

Gwobrau:

  • Cwpan Y Cymro i’w ddal am flwyddyn a Medal Ann Dwynant i’w dal am flwyddyn i arweinydd y côr buddugol a £800
  • £600
  • £400 (Yn rhoddedig gan Gôr Ni, Wrecsam. Côr sefydlodd yn 2023 i baratoi at yr Eisteddfod. Mae’r rhodd yn adlewyrchu ein hymroddiad i feithrin tyfiant corawl a diwylliant Cymreig yn Wrecsam.)

Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon

Archebu cais ar gyfer y gystadleuaeth hon

Rhowch enw’r côr, parti, band neu unigolion sy’n cymryd rhan
Swm:
£180.00