Cyflwyno drama fer neu waith dyfeisiedig rhwng 20 a 50 munud i'w pherfformio.
Cynhelir y rownd gynderfynol cyn diwedd Mehefin 2026 lle bydd y beirniaid yn dewis 3 chwmni/cynhyrchiad i ymddangos yn y rownd derfynol
Cofrestru i gystadlu cyn 1 Ebrill 2026
Cefnogir y gystadleuaeth gan Gronfa Goffa Edwin Williams yn rhoddedig gan ei ddiweddar weddw, Rene Myddleton Williams
Gwobrau:
- Cwpan Gwynfor i’w ddal am flwyddyn a £400 (; Cwmni Drama’r Mochyn Du)
- £300 (; Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd – £200)
- £200 (; Merched y Wawr, cangen Dinas, Sir Benfro – £100)
Cam 1: Rhaid cofrestru i gystadlu erbyn 1 Ebrill. Dylid uwch-lwytho copi o’r sgript fel y bwriedir ei pherfformio neu fraslun manwl o’r cyflwyniad os yn waith dyfeisiedig.
Cam 2: Bydd y beirniaid yn ymweld â'r cwmnïau i ddewis 3 i berfformio yn y rownd derfynol yn yr Eisteddfod. Os nad yw'n bosibl i'r beirniaid ymweld â'r cwmni cyn diwedd Mehefin, gellir cyflwyno recordiad o'r ddrama neu waith dyfeisiedig. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru am ganllawiau a chyfarwyddiadau pellach.
Cam 3: Rhaid i unrhyw gwmni sydd wedi’u dewis ar gyfer y prawf terfynol ond sy’n tynnu’n ôl heb reswm digonol, hysbysu swyddfa'r Eisteddfod o leiaf fis cyn diwrnod y gystadleuaeth.
Cam 4: Cynhelir y gystadleuaeth derfynol mewn canolfan bwrpasol ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod.
Rheolau ac Amodau
- Os yn perfformio drama, rhaid i’r ddrama fod naill ai’n ddrama un act gyflawn neu’n ddetholiad o ddrama hir neu’n waith dyfeisiedig
- Ni chaniateir unrhyw ragarweiniad i’r detholiad, drwy araith na chrynodeb wedi’i argraffu
- Ni ddylai’r perfformiad fod yn llai nag 20 munud o hyd nac yn hwy na 50 munud. Mae ‘amser perfformio’ yn cynnwys unrhyw amser sydd ei angen i newid golygfa yn ystod perfformiad
- Caniateir 10 munud i osod y llwyfan a 5 munud i glirio’r llwyfan
- Rhaid i’r cwmnïau sicrhau’r hawl i berfformio, a rhaid uwch-lwytho copi o’r drwydded gyda’r ffurflen gais.
- Cynigir hyd at 6 radio mic iat ddefnydd pob cwmni ar gyfer eu perffomiad.
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd