Beirniaid: Dafydd M Roberts a Branwen Haf
Mae’r gystadleuaeth yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru a BBC Radio Cymru ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd. Diffinnir gwerin fel caneuon ac alawon traddodiadol Cymreig neu ganeuon newydd yn y dull gwerinol.
Mae'n rhaid cofrestru erbyn 1 Mai a chyflwyno recordiad hyd at 15 munud i gynnwys o leiaf 2, a hyd at 4 cân. Bydd y beirniaid yn dewis hyd at 4 artist/band/grŵp i fynd ymlaen i'r rownd nesaf. Bydd cyfle i'r artistiaid/bandiau/grwpiau:
- recordio a ffilmio 2 gân yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd neu leoliad yng ngogledd Cymru. Caiff y caneuon a recordiwyd eu darlledu ar BBC Radio Cymru ac ar blatfformau digidol yn arwain at yr Eisteddfod
- gyflwyno perfformiad byw o'r caneuon ar faes yr Eisteddfod yn y Tŷ Gwerin cyn cyhoeddi enw'r artist/band buddugol.
Gwobr: £600 (Cymdeithas Trewyddel, trefnwyr gweithgareddau o amgylch Trewyddel a rheolwyr Neuadd yr Hen Ysgol, Trewyddel)
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd