Unrhyw gyfuniad o leisiau i gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad heb fod yn hwy na 10 munud, ac i gynnwys darn gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru. Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl

Ewch i www.steddfota.cymru am restr o Eisteddfodau

Gwobrau:

  • Cwpan Miss Menai Williams a Mrs Nesta Davies i’w ddal am flwyddyn a £600 (Clwb Cinio Trefdraeth)
  • £400 (Cymdeithas Waldo)
  • £200 (Papur Bro Y Cardi Bach, er cof am Mrs Rhoswen Llewellyn a’r Parchedig Euros Wyn Jones, cyn olygyddion)

Bydd cystadlu mewn dwy eisteddfod leol rhwng 1 Mai 2025 a 1 Mai 2026 yn rhoi’r hawl i gystadlu yn y gystadleuaeth hon yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026. Wrth gofrestru, rhaid nodi enwau’r eisteddfodau lleol bu'r côr yn cystadlu ynddynt

Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon