Thema: 'Un funud fach...'
Cewch ffilmio mewn gwahanol leoliadau o fewn y gwaith a golygu fel y gwelir yn briodol, boed hynny drwy ddefnyddio meddalwedd broffesiynol neu 'app' ffôn
Cewch fod yn greadigol drwy wneud defnydd o ddarluniau, cerddoriaeth, technegau ffilmio a golygu, neu ba bynnag dechnoleg sy’n ychwanegu at eich geiriau, ond rhaid i’r pwyslais fod ar y gair llafar a’i berthynas gyda’ch gweledigaeth a’ch dehongliad chi o’r thema. Mae'n ddisgwyliedig y bydd y perfformiwr i'w weld ar y sgrîn ar gyfer y rhan fwyaf o'r perfformiad
Gwobrau:
- £150 (Simon a Sian Jones a’r teulu, er cof am Beth a Jeff Jones, Tafarn Gobaith ac Angor, Aberteifi)
- £120 (Cymdeithas Waldo)
- £90 (Cymdeithas Waldo)
Rhaid cofrestru erbyn 1 Mai ac uwchlwytho'r cyflwyniad ar ffurf fideo (e.e. MP4/MOV) erbyn 15 Mehefin
Dyddiad cau: 1 Gorffennaf 2026 am ganol dydd