Rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud o hyd i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru. Gellid cyfuno'r ddwy elfen a chael darn digyfeiliant gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru. Ni chaniateir i unrhyw gôr ail-ganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl
Gwobrau:
- Cwpan OR Owen (Owen Gele) i’w ddal am flwyddyn a Medal Goffa Hilda Morgan i’w dal am flwyddyn i arweinydd y côr buddugol, a £800 (Teulu Hendre, Pentyrch)
- £600 (Er cof am Eiry Jones, cyn-arweinydd Côr Crymych, gan ei gŵr Gary, a’r merched, Meinir a Delyth.)
- £400 (Ramoth, Capel y Bedyddwyr, Cwmfelin Mynach.)
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd