Bydd y panel beirniaid yn dewis tri chystadleuydd ar draws y categorïau lleisiol 19 ac o dan 25 oed i ganu eto yn y rownd derfynol i gyflwyno:

(a) Yr unawd Rhan A yn y dosbarth
(b) Hunanddewisiad o unawd gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymro ac eithrio dewisiadau Rhan B unawdau 19 ac o dan 25 oed

Dyfernir yr ysgoloriaethau canlynol ar gyfer cantorion yn y categorïau lleisiol 19 ac o dan 25 oed (nid o reidrwydd i enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts):

  • (£1000) Ysgoloriaeth William Park-Jones i’r unawdydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau Gwobr Goffa Osborne Roberts
  • (£150) Cronfa Goffa Jean Skidmore, Aberdyfi i'r soprano mwyaf disglair 19 ac o dan 25 oed
  • (£150) Gwobr Goffa David Lloyd i'r tenor mwyaf disglair 19 ac o dan 25 oed

Estynnir gwahoddiad i'r enillydd gan Sefydliad Cymru Gogledd America i berfformio yng ngŵyl NAFOW (North America Festival of Wales) ddechrau Medi 2027

    Gwobr: Medal Goffa Osborne Roberts (Alan a Myra James, cwmni Alan James a’i feibion, Tegfan, Cilrhedyn), (£2000) Ysgoloriaeth William Park-Jones a £300 (Eilyr Thomas, Betsan ac Owen Powell, er cof am Wynne, Y Fedwen Aur, Llandysilio)

    Rheolau ac amodau cyffredinol

    Dangos

    Amodau arbennig yr adran hon