Beirniaid: Damian Walford Davies, Gwynfor Dafydd a Nia Powell
Cerdd neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau
Testun: Adnabod
Gwobr: Coron yr Eisteddfod (Teulu’r Parch WJ Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro’r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal) a £750 (Papur bro Y Cardi Bach, er cof am Mrs Rhoswen Llewellyn a’r Parchedig Euros Wyn Jones, cyn olygyddion)
Cystadleuaeth ar gyfer cerdd neu gerddi ar y mesurau rhydd neu benrhydd yw cystadleuaeth y Goron ac ni chaniateir cerddi ar y mesurau caeth traddodiadol. Ni chaniateir ond defnydd achlysurol iawn o’r gynghanedd yn y gystadleuaeth
Dyddiad cau: 1 Ebrill 2026 am ganol dydd