Unrhyw gyfuniad o leisiau mewn unrhyw gyfrwng neu arddull gerddorol i gyflwyno dau ddarn cyferbyniol hunanddewisiad hyd at 8 munud.
Diben y gystadleuaeth yw annog a chyflwyno corau newydd, corau sydd wedi ffurfio'n arbennig, corau cymunedol neu gorau sydd erioed wedi cystadlu o’r blaen i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Gwobrau:
- £600 (Cwmni Ffenestri Kevin Thomas Windows, Capel Iwan, Castell Newydd Emlyn)
- £400 (Cwmni Datblygiadau Moelfre Developments, Capel Iwan, Castell Newydd Emlyn)
- £200 (Cwmni Redi Plastics, Hwlffordd)
Un waith yn unig y caiff côr gystadlu yn y gystadleuaeth hon
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd