Rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud o hyd i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru. Gellid cyfuno'r ddwy elfen a chael darn digyfeiliant gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru. Ni chaniateir i unrhyw gôr ail-ganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl
Gwobrau:
- Cwpan Sefydliad Gweithwyr Tredegar i’w ddal am flwyddyn a Medal Goffa Morfydd Vaughan Evans i arweinydd y côr buddugol, a £800 (Meifis, Elis, Branwen ac Esyllt, er cof annwyl am Trevor T Griffiths OBE a phawb sydd wedi elwa o ganu corawl)
- £600 (Cwmni D. I. Evans Cyf, Beulah)
- £400 (Côr Crymych a’r cylch)
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd