Disgwylir i’r cystadleuwyr gyfeilio i ddarn ar gyfer offeryn a bod yn barod i gyfeilio i ddarn arall a osodir ar y dydd. Bydd yr ail ddarn yn gân osodedig
(a) Darn ar gyfer offeryn oddeutu 5 munud o hyd (darperir copi o flaen llaw)
(b) Cân osodedig gan y canwr (darperir copi ar y diwrnod)
Rhoddir 20 munud i’r cystadleuwyr ymgyfarwyddo â’r darnau gyda’r ddau ddatgeinydd cyn y gystadleuaeth
Gwobr: £300 (Gwilym Evans, er cof annwyl am Eleri ac hefyd ei mham, Glenys)
Dyddiad cau: 1 Gorffennaf 2026 am ganol dydd