Cyflwyno rhaglen o un darn neu ragor ar un neu gyfuniad o offerynnau. Ni ddylai’r rhaglen gyflawn fod yn hwy na 15 munud. Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw darparu cyfeilydd/cyfeiliant eu hun. Caniateir cyfeiliant byw neu ar drac sain
Gwobrau:
- Rhuban Glas offerynnol 19 oed a throsodd (Cynghorydd Huw Murphy), (£3000) Ysgoloriaeth Eira Francis Davies i’r enillydd a £150 (Kenvin ac Ann Morris, Maenclochog)
- £120 (Idris Rees, cyn enillydd ac aelod o’r Orsedd)
- £90 (Paul a Marion Phillips, Mirianog Fawr, Eglwyswrw)
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd