Dylid dewis un gân o Rhan A ac un gân o Rhan B
Rhan A
Opera: 'O mio Fernando' (O fy Ffernando) allan o'r opera La Favorita, Donizetti, Arias for Mezzo-Soprano [Schirmer 50481098]. Geiriau Cymraeg gan T Ifor Rees (gol. John Stoddart)
Opera: 'Cruda Sorte' (Creulon Dynged) allan o'r opera L'Italiana in Algeri, Rossini, Arias for Mezzo-Soprano [Schirmer 50481098]. Geiriau Cymraeg gan Dyfnallt Morgan (gol. John Stoddart)
Opera: 'I Know a Bank Where the Wild Thyme Blows' (Fe wn pa le) allan o'r opera A Midsummer Night's Dream, Britten. Benjamin Britten: Opera Arias [Boosey & Hawkes 1268932]. Geiriau Cymraeg gan Sian Meinir
Oratorio/offeren: 'Liber Scriptus' (Gwelir llyfr ysgrifenedig) o'r offeren Messe de Requiem, Verdi, The Alto/Mezzo-Soprano Oratorio Anthology [Hal Leonard 00747059]. Geiriau Cymraeg gan TH Parry-Williams
Oratorio/Offeren: 'Some dire event / Scenes of horror, scenes of woe' (Rhyw erchyll ffawd / Lluniau arswyd, lluniau braw) o'r offeren Jephtha, Handel. IMSLP [Novello]. Geiriau Cymraeg Dafydd Wyn Jones (gol. Alun Guy).
Lieder: dewis o waith Ivor Gurney: 'Sleep’ (Cwsg), Five Elizabethan Songs [Boosey & Hawkes], ‘Under the Greenwood Tree’ (Dan ddail y goeden ir), Five Elizabethan Songs [Boosey & Hawkes], ‘I will go with my father a-ploughing’ (Af i gyda 'nhad i aredig), copi unigol [Boosey & Hawkes], ‘Down by the Salley gardens’ (Draw, draw yng ngerddi’r helyg), copi unigol [ivorgurney.co.uk]. Geiriau Cymraeg gan Emyr Davies a Beryl Steeden Jones
Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru i archebu cyfieithiad
Rhan B
Unawd Gymraeg: naill ai
'Min y Môr', Osborne Roberts, copi unigol [Snell a'i feibion] neu
'O Fab y Dyn', Meirion Williams, copi unigol [Ricordi] ar gael i'w archebu ar-lein www.music-exchange.co.uk
Gwobrau:
- £150 (Marian Thomas)
- £120 (Teulu Troed-y-Meini, Mynachlogddu)
- £90 (Aelodau Capel Annibynwyr Nebo Efailwen)
Copïau digidol o'r darnau opera ac oratorio/offeren ar gael o wefan IMSLP (www.imslp.org)
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd