Rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud o hyd i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru. Gellid cyfuno'r ddwy elfen a chael darn digyfeiliant gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru. Ni chaniateir i unrhyw gôr ail-ganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl
Gwobrau:
- Cwpan Cymdeithas Corau Meibion Cymru i’w ddal am flwyddyn a Medal Goffa Ivor E Sims i arweinydd y côr buddugol, a £800 (er cof am Wyn y fet, arweinydd Côr Ar Ôl Tri am 30 mlynedd, gan ei deulu yn Felinwynt a Treprior, Tremain)
- £600 (Cymdeithas Waldo)
- £400 (Cymdeithas Waldo)
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd