Mae Brwydr y Bandiau yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Maes B) a’r BBC ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth gyfoes Cymraeg newydd.

Bydd Brwydr y Bandiau yn agored i fandiau / artistiaid sy’n cyfansoddi, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol. Mae’r genres cyfoes hyn yn cynnwys indie, electroneg, trefol, MOBO, pop, roc, canu gwerin cyfoes neu unrhyw genres cerddorol cyfoes eraill newydd sy’n dod i’r amlwg ar hyn o bryd.

Rhaid cofrestru a chyflwyno demo neu recordiad fideo o set hyd at 15 munud i gynnwys rhwng 2 a 4 cân wreiddiol cyn 1 Mai 2026. Yna bydd y beirniaid yn dewis 4 band neu artist i fynd ymlaen i’r rownd nesaf ac yn cael y cyfle i:

  • recordio 2 gân mewn set byw yng Nghlwb Ifor Bach neu leoliad yng ngogledd Cymru gyda'r caneuon yn cael eu darlledu ar Radio Cymru ac ar blatfformau digidol yn arwain at yr Eisteddfod
  • berfformio set byw 20 munud o ganeuon gwreiddiol Cymraeg (neu yn ddi-eiriau) ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher yr Eisteddfod cyn cyhoeddi enw'r artist/band buddugol
  • yr artist/band buddugol i berfformio ar lwyfan Maes B nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod

Gwobr: £1000 (Cyngor Cymuned Eglwyswrw)

Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd

Cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth hon

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon