Canlyniad:

1af Aisha Gwyneth Palmer — Caerffili

Beirniaid: Elin Edwards, Chris Marshall, Elfair Grug, Gavin Saynor, Iwan Llewelyn-Jones a Robert Codd

Bydd y panel beirniaid yn dewis pedwar cystadleuydd yng nghystadlaethau 54-59 i gystadlu ar lwyfan y pafiliwn a dylid cyflwyno’r un rhaglen. Ni ddylai’r rhaglen gyflawn fod yn hwy na 15 munud.

Gwobr:
Y Rhuban Glas a £150 (Cylch Cinio Bangor)

Mae cystadlaethau 54-59 yn arwain at y Rhuban Glas ac Ysgoloriaeth gwerth £3,000 o Gronfa Peggy a Maldwyn Hughes. Bydd yr Ysgoloriaeth yn agored i unrhyw berson a anwyd yng Nghymru neu y ganwyd un o’i r/rhieni yng Nghymru, neu unrhyw berson sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru am y 3 blynedd cyn 31 Awst 2023, neu unrhyw berson sy’n siarad neu’n ysgrifennu Cymraeg. Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon i hyrwyddo cerddoriaeth offerynnol yng Nghymru. Mae’r ysgoloriaeth i’w defnyddio i hyrwyddo gyrfa’r enillydd fel offerynnwr. Ni all unrhyw un dderbyn yr un ysgoloriaeth fwy nag unwaith, ond gellir cystadlu fwy nag unwaith i ennill y gwobrau.

Bydd y panel beirniaid yn dewis pedwar cystadleuydd yng nghystadlaethau 54-59 i gystadlu ar lwyfan y pafiliwn a dylid cyflwyno’r un rhaglen.

Unigolion 19 oed a throsodd
Gofynnir i’r cystadleuwyr yn y cystadlaethau a ganlyn ddewis rhaglen o un darn neu ragor. Ni ddylai’r rhaglen gyflawn fod yn hwy na 15 munud. Mae pob cystadleuydd yn gyfrifol am ei gyfeilydd ei hun. Ni ddarperir cyfeilydd swyddogol. Bydd pedwar cystadleuydd o blith cystadlaethau 54-59 yn cystadlu am y Rhuban Glas. Cynhelir y cystadlaethau hyn yn yr un ganolfan, y naill ar ôl y llall, o flaen panel o feirniaid.

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon