Canlyniad:
1af Côr Ieuenctid Mon — Ynys Môn
2il Merched Plastaf — Caerdydd
3ydd Cor Iau Glanaethwy — BANGOR
Beirniaid: Islwyn Evans, David Leggett a Nia Llewelyn Jones
Rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud o hyd i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr o Gymro. Gellid cyfuno’r ddwy elfen a chael darn digyfeiliant gan gyfansoddwr o Gymro. Gellid hefyd defnyddio trefniant o alaw werin Gymreig gan gyfansoddwr o Gymro.
Gwobrau:
- Cwpan y Daily Post i’w ddal am flwyddyn a £750 (Cangen Sefydliad y Merched Porthmadog)
- £500 (Ysgol Uwchradd Botwnnog)
- £300 (Er cof am Wil Owen [Meddyg o Lŷn], Olwen a Dafydd Owen, Llanbedrog gan Gareth, Sian a Nerys Glennydd)
Cyflwynir Medal Goffa Twm Dwynant i’w dal am flwyddyn i arweinydd y côr buddugol