Canlyniad:
Sian Wheway — Bwlch, Cwm y Glo
i eiriau’r Parch. Mererid Mair Williams
Emyn Gobaith
Trown atat Arglwydd Iesu
a’n calonnau yn llawn mawl,
daeth cyfle nawr i’th foli
ac i’n cân mae gennyt hawl.
Cawn uno gyda’th deulu yma’n agos ac ymhell,
i ganu cân o obaith byw; am Deyrnas Crist a fory gwell.
Trown atat Arglwydd Iesu
a’n calonnau yn llawn poen,
fe’n llethwyd gan bryderon;
tyrd i’n cynnal, addfwyn Oen.
Cawn uno gyda’th deulu yma’n agos ac ymhell,
i ganu cân o obaith byw; am Deyrnas Crist a fory gwell.
Trown atat Arglwydd Iesu
a’n calonnau yn llawn siom,
methwyd dangos maint dy gariad,
tyrd, bywha pob calon drom.
Cawn uno gyda’th deulu yma’n agos ac ymhell,
i ganu cân o obaith byw; am Deyrnas Crist a fory gwell.
Trown atat Arglwydd Iesu
a’n calonnau yn llawn ffydd,
bu ddoe dan niwl amheuaeth,
ond daeth gwawr y trydydd dydd.
Cawn uno gyda’th deulu yma’n agos ac ymhell,
i ganu cân o obaith byw; am Deyrnas Crist a fory gwell.
Cenir yr emyn ar y dôn fuddugol yng Nghymanfa Ganu’r Eisteddfod
Gwobr: £200 (Er cof annwyl am mam a dad, Elfed a Megan Evans, Annedd-Wen, Penygroeslon gan Rhian)