Canlyniad:
1af Llew Mills — Caerdydd
Beirniaid: Elfair Grug, Chris Marshall, Gavin Saynor, Elin Edwards ac Iwan Llewelyn-Jones
Bydd y panel beirniaid yn dewis pedwar cystadleuydd yng nghystadlaethau 68-73 i gystadlu ar lwyfan y pafiliwn a dylid cyflwyno’r un rhaglen. Ni ddylai’r rhaglen gyflawn fod yn hwy na 10 munud.
Gwobr: Y Rhuban Glas a £100 (Sianelen Pleming, er cof am ei thad, Ioan Mai Evans)
Mae cystadlaethau 68-73 yn arwain at y Rhuban Glas ac Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans gwerth £1,000. Bydd yr ysgoloriaeth yn agored i unrhyw berson a anwyd yng Nghymru neu y ganwyd un o’i r/rhieni yng Nghymru, neu unrhyw berson sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru am y 3 blynedd cyn 31 Awst 2023 neu unrhyw berson sy’n siarad neu’n ysgrifennu Cymraeg.
Mae’r ysgoloriaeth i’w defnyddio i hyrwyddo gyrfa’r enillydd fel offerynnwr.
Ni all unrhyw un dderbyn yr un ysgoloriaeth fwy nag unwaith, ond gellir cystadlu fwy nag unwaith i ennill y gwobrau.
Bydd y panel beirniaid yn dewis pedwar cystadleuydd yng nghystadlaethau 68-73 i gystadlu ar lwyfan y pafiliwn a dylid cyflwyno’r un rhaglen.
Unigolion o dan 16 oed
Gofynnir i’r cystadleuwyr yn y cystadlaethau a ganlyn ddewis rhaglen o un darn neu fwy. Ni ddylai’r rhaglen gyflawn fod yn hwy na 10 munud. Mae pob cystadleuydd yn gyfrifol am ei gyfeilydd ei hun. Ni ddarperir cyfeilydd swyddogol. Bydd pedwar cystadleuydd o blith cystadlaethau 68-73 yn cystadlu am y Rhuban Glas. Cynhelir y cystadlaethau hyn yn yr un ganolfan, y naill ar ôl y llall, o flaen panel o feirniaid.