Beirniaid: Geraint Wilson-Price, Hannah Thomas a Liz Saville Roberts
Gallwch eich enwebu chi eich hun neu gall tiwtor neu unrhyw un arall enwebu dysgwr ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru Yn agored i unrhyw ddysgwr dros 18 oed sydd erbyn hyn yn siarad yn eithaf hyderus.
Mae modd sôn am y canlynol:
- teulu a diddordebau
• teulu a diddordebau
- rhesymau dros ddysgu Cymraeg
• rhesymau dros ddysgu Cymraeg
- sut yr aeth y dysgwr ati i ddysgu’r iaith
• sut yr aeth y dysgwr ati i ddysgu’r iaith
- effaith dysgu Cymraeg ar fywyd y dysgwr a’r defnydd mae’n ei wneud o’r Gymraeg
• effaith dysgu Cymraeg ar fywyd y dysgwr a’r defnydd mae’n ei wneud o’r Gymraeg
- gobeithion ar gyfer y dyfodol
• gobeithion ar gyfer y dyfodol
Y rownd gyn-derfynol i’w chynnal yn rhithiol mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Gwobrau: Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300 (Cyngor Tref Pwllheli) i’r enillydd; ynghyd â £100 yr un i bawb arall sy’n ymddangos yn y rownd derfynol (£300 Cyngor Tref Pwllheli)
Tanysgrifiad blwyddyn yr un gan y cylchgrawn Golwg i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol.
Cydnabyddir hefyd roddion gan fudiad Merched y Wawr i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol.
Caiff yr enillydd wahoddiad i fod yn aelod o’r Orsedd ynghyd â gwahoddiad i ymuno â Phanel Dysgwyr yr Eisteddfod