Beirniad: Menna Elfyn

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth flynyddol hon i gynnig hyfforddiant i lenor neu fardd na chyhoeddwyd cyfrol o waith ganddynt eisoes. Gofynnir i’r cystadleuwyr uwchlwytho gwaith mewn unrhyw ffurf neu arddull – boed yn farddoniaeth neu’n rhyddiaith (neu’n gyfuniad o farddoniaeth a rhyddiaith) – heb i’r cyfan fod yn hwy na 3,000 gair. Rhaid i bob cyfansoddiad fod yn gynnyrch gwreiddiol gan yr awdur a heb ei gyhoeddi.

Bydd yr enillydd yn cael prentisiaeth yng nghwmni mentor profiadol a ddewisir ar y cyd gan yr enillydd a’r Eisteddfod. Mae cyfanswm o £1,000 ar gael ar gyfer y mentora; yn ogystal â thâl i’r mentor, gellir cyfrannu tuag at gostau teithio ac unrhyw gostau eraill perthnasol i’r hyfforddiant o’r swm hwn. Ni all unrhyw un dderbyn yr ysgoloriaeth fwy nag unwaith

Gwobr: £100 (Trwy ei waith gydag Undeb yr Ysgrifenwyr, rhoddodd yr awdur Gareth Miles lawer o gefnogaeth i awduron newydd. Addas, felly, yw cyflwyno’r wobr hon er cof amdano)

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon