Beirniaid: Julian Wilkins, Katie Thomas a Lyn Davies
Unrhyw gyfuniad o leisiau i gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad heb fod yn hwy na 10 munud, ac i gynnwys darn gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes. Gellid hefyd defnyddio trefniant o alaw werin Gymreig gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes. Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl.
Bydd cystadlu mewn dwy eisteddfod leol rhwng 1 Mai 2023 a 1 Mai 2024 yn rhoi’r hawl i gystadlu yn y gystadleuaeth hon yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024. Wrth gofrestru, rhaid nodi enwau’r Eisteddfodau lleol y cystadlwyd ynddynt.
Gwobrau:
- Cwpan Miss Menai Williams a Mrs Nesta Davies i’w ddal am flwyddyn a Medal Goffa Gwilym E Humphreys [Cymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol] i arweinydd y côr buddugol a £500 (Côr Godre’r Garth, er cof am aelodau annwyl a gollwyd)
- £300
- £200