Beirniad: Eleri Twynog

Cyfle i unigolyn bortreadu un o gymeriadau enwog Cymru yn seiliedig ar gyflwyniadau gwreiddiol cwmni Mewn Cymeriad

Gofynion y gystadleuaeth:

  • Dylai’r pwyslais fod ar greu perfformiad ysgafn, sy'n dangos gallu’r unigolyn i ryngweithio’n hwylus gyda’r gynulleidfa a chyfleu’r stori’n glir;
  • Uchafswm hyd y perfformiad fydd 5 munud, wedi'i selio ar ddewis o ddau sgript (Owain Glyndŵr neu Cranogwen);
  • Caniateir gwisgoedd a props;
  • Bydd cystadlu mewn dwy eisteddfod leol rhwng Mai 2023 a diwedd Ebrill 2024 yn rhoi’r hawl i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol;
  • Bydd yr enillydd cenedlaethol yn derbyn gwahoddiad i ymuno â chwmni Mewn Cymeriad maes o law ar gyfer gweithdy ymarferol i ddatblygu sgiliau ymhellach.

Sgriptiau ar gael o wefan Eisteddfodau Cymru: 
www.steddfota.cymru

Gwobrau:

  • £100 (Cymdeithas Rieni ac Athrawon Ysgol Gyfun Cwm Rhymni)
  • £60 (Roy Noble, i gamu y tu allan i'ch hun a chymryd y gynulleidfa mewn yn llwyr yn eich cymeriad newydd - actio pur)
  • £40 (Roy Noble, i gamu y tu allan i'ch hun a chymryd y gynulleidfa mewn yn llwyr yn eich cymeriad newydd - actio pur)

 

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon