Beirniaid: David Kempster ac Elin Manahan Thomas

Bydd y panel beirniaid yn dewis tri cystadleuydd ar draws y categorïau lleisiol 25 oed a throsodd i ganu eto yn y rownd derfynol
(a) Yr unawd (Rhan A) yn y dosbarth
(b) Hunanddewisiad o unawd gan gyfansoddwr o Gymro ac eithiro dewisiadau Rhan B unawdau 25 oed a throsodd

Bydd yr enillydd yn derbyn gwahoddiad arbennig i berfformio yn nathliadau Gŵyl Ddewi Eglwys Gymraeg Melbourne yn 2025.

Bydd yr enillydd yn derbyn £200 yn rhoddedig gan deulu y diweddar Aeron Gwyn

Gwobr: Medal Goffa David Ellis (Cronfa Goffa Richie Thomas, enillydd y wobr yn 1953), £500 Ysgoloriaeth Goffa Twm Dwynant a £200 (Sian Griffiths, Emyr Gruffydd ac Iwan Gruffydd, er cof am Cledwyn a Rhianydd Parry, Penygraig.)

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon