Beirniaid: Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan

Yn agored i unrhyw ddysgwr dros 18 oed sydd erbyn hyn yn siarad yn eithaf hyderus. Gallwch eich enwebu chi eich hun neu gall tiwtor neu unrhyw un arall enwebu dysgwr ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru

Mae modd sôn am y canlynol:

  1. teulu a diddordebau
  2. rhesymau dros ddysgu Cymraeg
  3. sut yr aeth y dysgwr ati i ddysgu’r iaith
  4. effaith dysgu Cymraeg ar fywyd y dysgwr a’r defnydd mae’n ei wneud o’r Gymraeg / gobeithion ar gyfer y dyfodol
  5. gobeithion ar gyfer y dyfodol

Y rownd gynderfynol i’w chynnal yn rhithiol mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dyddiad cau cyflwyno cais : 1 Mai 2024

Gwobr: Tlws Dysgwr y Flwyddyn (Menter Iaith Rhondda Cynon Taf) a £300 (Lowri Jones a Rhuanedd Richards, i ddiolch i’w rhieni am fynd ati i ddysgu Cymraeg fel oedolion, ac i ddiolch i bawb arall sydd wedi dysgu’r iaith, neu sicrhau bod eu plant yn cael addysg Gymraeg er nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg eu hunain). 

Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlws (Menna Davies, er cof am thad, Meirion Lewis, cyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Ynys-wen, ei mam, Clarice Lewis a’i chwaer, Mair) a £100 (Lowri Jones a Rhuanedd Richards) Tanysgrifiad blwyddyn yr un gan y cylchgrawn Golwg i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol. Cydnabyddir hefyd roddion gan fudiad Merched y Wawr i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol. 

Caiff yr enillydd wahoddiad i fod yn aelod o’r Orsedd ynghyd â gwahoddiad i ymuno â Phanel Dysgwyr yr Eisteddfod 

Noddir y sesiwn Dysgwr y Flwyddyn ym Maes D gan Gwmni Cyfieithu Nico

Ffurflen gais/enwebu ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon