Beirniaid: Julian Wilkins, Katie Thomas a Lyn Davies

Rhaglen hunanddewisiad adloniannol, hyd at 12 munud o hyd, o drefniannau corawl yn yr arddulliau canlynol: pop, roc, sioe gerdd, jazz, gospel a/neu emyn, gwerin a/neu ganeuon ysgafn Cymreig. Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl.

Gwobrau:

  • Cwpan Y Cymro i’w ddal am flwyddyn a Medal Ann Dwynant i’w dal am flwyddyn i arweinydd y côr buddugol a £750 (Penri Williams, rhodd gan y teulu er cof am Carol Williams, Hendre, Pentyrch)
  • £500 (Côr Philharmonic Caerdydd, i nodi bod y côr wedi cychwyn fel Côr Eisteddfod Caerdydd, 1978, wrth i’r côr ddod i ben)
  • £300 (Owen Saer, Cwmni Glanhau Time For You, Caerdydd)

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon