Beirniaid: Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch

Gwobrwyir y ddrama sydd yn dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael cydweithio gyda chwmni proffesiynol.

  • Cyflwynir rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts
  • Croesewir dramâu y gellir eu llwyfannu gyda chast o ddim mwy na thri perfformiwr
  • Anogir cystadleuwyr i ystyried newydd-deb o ran ffurf ac/neu ymdriniaeth o themâu
  • Pwysleisir mai cystadleuaeth cyfansoddi drama ar gyfer cyfrwng theatr yw hon ac nid unrhyw gyfrwng arall
  • Ni dderbynnir unrhyw waith sy’n cynnwys deunydd neu gyfeiriad enllibus

Gan fod hybu ysgrifennu newydd yn fwriad gan yr Eisteddfod, Theatr Genedlaethol Cymru, a’r cwmnïau theatr proffesiynol eraill fel ei gilydd, bydd y sgript fuddugol, neu unrhyw sgript sydd yn dangos addewid yng ngolwg y beirniaid yng nghystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn cael ei hanfon at Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn ystyried datblygu y sgript ymhellach neu yn ei hanfon ymlaen, ar eu cais, i’r cwmnïau proffesiynol Cymraeg eraill.

Gwobr: Y Fedal Ddrama (er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (gan deuluoedd Megan Tudur, Rheinallt Llwyd a Manon Rhys er cof am Mair a James Kitchener Davies, eu merch, Mari, a’u hŵyr, Mei)

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon