Beirniaid: Maria Pride a Sharon Morgan

Unrhyw ddwy fonolog o ddrama/ddramâu neu ryddiaith addas. Caniateir 8 munud ar gyfer y cyflwyniad cyfan sy’n cynnwys paratoi a chlirio’r llwyfan. Rhaid i un o’r monologau fod allan o ddrama Gymraeg. Caniateir un darn gwreiddiol os dymunir ond rhaid i’r ddau ddarn fod yn wrthgyferbyniol.

Gwobr: Medal Goffa Richard Burton a £500 (Sir Gareth Rhys Williams, er cof am fy hen-hen daid, Alaw Goch, a fu’n rhan o’r Eisteddfod yn Aberdâr yn 1861, a’i fab oedd ar y pwyllgor ym Mhontypridd yn 1893. Mae’n bleser parhau â’r traddodiad o gefnogi’r Brifwyl)

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon