Beirniad: Geraint Cynan

I’r fam sydd heno’n mwytho’i galar
ger y crud lle bu ei lun,
i’r tad sy’n wylo hwiangerddi
heb ei fychan ar ei glun,
i’r brawd sy’n troi dan fwrdd y gegin
gêm i ddau yn gêm i un,
drwy’r tywyllwch, cariad sydd
yn cynnau’r gobaith, tanio’r ffydd.

I’r plant a aeth mewn lifrai dynion
dan y ddaear dros eu gwlad,
i’r ferch sy’n ffoi o nyth ei chartref
dros y môr ym mreichiau’i thad,
i’r crwt sy’n chwilio dan y rwbel
am lygedyn o ryddhad,
drwy’r tywyllwch, cariad sydd
yn cynnau’r gobaith, tanio’r ffydd.

I’r crwydryn sydd yn methu heno
ffeindio’i ffordd yn ôl i’w fro,
i’r claf sy’n clywed cnul yr oriau’n 
treiglo am yr olaf dro, 
i fyd sy’n teimlo’i ryfeddodau
ben draw drws sy’n sownd dan glo,
drwy’r tywyllwch, cariad sydd
yn cynnau’r gobaith, tanio’r ffydd.

Drwy’r tywyllwch, cariad sydd
yn cynnau’r gobaith, tanio’r ffydd.

Gwobr: £200 (Cymdeithas Gymraeg Rhiwbeina)

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon