Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Marchnata a Masnach profiadol i ymuno â ni mewn rôl newydd sbon, i arwain ar y gwaith o farchnata’r Eisteddfod yn lleol a chenedlaethol, ynghyd ag arwain ar strategaethau cynyddu incwm y sefydliad.

Bydd gennych brofiad o lunio, datblygu a gweithredu strategaethau a pholisïau llwyddiannus sy’n ymwneud â phob elfen o waith marchnata a masnach. Byddwch hefyd yn brofiadol yn denu nawdd, grantiau a rhoddion ar bob lefel.

Byddwch yn awyddus i weithio gyda gwirfoddolwyr yn ein cymunedau, yn datblygu ymgyrchoedd ac yn hwyluso’r gwaith marchnata ar lawr gwlad, gan gynnig arweiniad a chefnogaeth i’n pwyllgorau lleol mewn gwahanol rannau o Gymru.

Disgrifiad swydd: Rheolwr Marchnata a Masnach Lawrlwytho
Ffurflen gais (PDF) Lawrlwytho
Ffurflen gais (Word) Lawrlwytho