Beirniaid: Siwan Davies, Cennydd Jones a Siwan Thomas
Gall fod yn syniad neu ddyfais hollol newydd neu yn ateb i broblem bresennol mewn unrhyw faes. Gofynnir am geisiadau yn y man cychwyn sy’n amlinellu’r syniad. Croesewir ceisiadau ar ffurf ysgrifenedig i gynnwys tablau, diagramau a/neu luniau amrywiol os dymunir, neu drwy gyfrwng ffilm hyd at 5 munud o hyd. Gwahoddir awdur/on y tri chais gorau i ddod i’r Eisteddfod i gyflwyno'u syniad gerbron panel beirniadu, lle bydd cyfle i ymateb i gwestiynau a dangos enghreifftiau o’r gwaith
Rhennir y wobr yn ôl dymuniad y beirniaid gyda lleiafswm o £500 i'r enillydd
Gwobr: £1000 (Spencer Quantum Ltd – Providers of Land-based and Geotechnical Services)
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd