Red cape with dried flowers - Lavender and yellow

Bydd grwpiau cymunedol a dinesig yn ymuno â Gorsedd Cymru i orymdeithio drwy dref Arberth, gan adael Neuadd y Frenhines toc cyn 10:00. Mae croeso i bawb ymuno yn yr orymdaith ac i wylio ar ochr y strydoedd.

Cynhelir seremoni'r Cyhoeddi ar lecyn glas Gwaun y Dref am 11:00.  Mae croeso mawr i bawb ymuno â ni i wylio'r seremoni. Cliciwch ar y blychau ar y dudalen hon am ragor o wybodaeth.

Os yw'r tywydd yn wael, ni fyddwn yn cynnal yr orymdaith a chynhelir y seremoni yn Neuadd y Frenhines.  

**Yn ogystal â'r Cyhoeddi, cynhelir Eisteddfod Llandudoch, ddydd Sadwrn 17 Mai, a byddwn wedi gorffen yn Arberth mewn da bryd i bawb fynd draw i gefnogi'r eisteddfod yn lleol.

Rhaglen seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2026 Lawrlwytho
Taflen Cyhoeddi Eisteddfod 2026 Lawrlwytho