Beirniad: Ffion Dafis
Perfformiad o gerdd/gerddi neu ddarn/ddarnau o ryddiaith neu rap neu ‘rant’, monolog neu ba bynnag arddull sy’n eich tanio chi, hyd at 5 munud o hyd ar y thema 'Cartref'
Gwobrau:
- £100 (Annwen ac Elis Jones, Caernarfon)
- £60 (Cyfaill i’r Eisteddfod, Caeathro, Bontnewydd)
- £40 (Cyfaill i’r Eisteddfod, Caernarfon)
Perfformiad o gerdd/gerddi neu ddarn/ddarnau o ryddiaith neu rap neu ‘rant’, monolog neu ba bynnag arddull sy’n eich tanio chi, hyd at 5 munud o hyd ar y thema “Cartref”.
Gall fod yn berfformiad o’ch gwaith chi eich hun neu o waith neu weithiau rhywun arall neu rywrai eraill.
Cewch fod yn greadigol drwy wneud defnydd o ddarluniau, cerddoriaeth, technegau ffilmio a golygu, neu ba bynnag dechnoleg sy’n ychwanegu at eich geiriau, ond rhaid i’r pwyslais fod ar y gair llafar a’i berthynas gyda’ch gweledigaeth a’ch dehongliad chi o’r thema.
Amod Arbennig: Caniateir ffilmio mewn gwahanol leoliadau o fewn y perfformiad a golygu fel y gwelir yn briodol, boed hynny drwy ddefnyddio meddalwedd broffesiynol neu ‘app’ ffôn. Rhaid uwchlwytho copi i’r porth cystadlu erbyn 9 Mehefin