Canlyniad:

Cai Llewelyn Evans — Treganna, Caerdydd

Beirniaid: Steffan Donnelly, Elgan Rhys a Seiriol Davies

Cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd

Gwobrwyir y ddrama sydd yn dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael cydweithio gyda chwmni proffesiynol.

Gwobr: Y Fedal Ddrama (Er cof am Urien ac Eiryth Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli)

Cyflwynir rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts

Gweler Amodau Arbennig 1 yr adran hon

Amodau Arbennig

  1. Croesewir dramâu y gellir eu llwyfannu gyda chast o ddim mwy na thri perfformiwr.
  2. Anogir cystadleuwyr i ystyried newydd-deb o ran ffurf ac/neu ymdriniaeth o themâu.
  3. Pwysleisir mai cystadleuaeth cyfansoddi drama ar gyfer cyfrwng theatr yw hon ac nid unrhyw gyfrwng arall.
  4. Ni dderbynnir unrhyw waith sy’n cynnwys deunydd neu gyfeiriad enllibus.
  5. Gan fod hybu ysgrifennu newydd yn fwriad gan yr Eisteddfod, Theatr Genedlaethol Cymru, a’r cwmnïau theatr proffesiynol eraill fel ei gilydd, bydd sgript fuddugol, neu unrhyw sgript sydd yn dangos addewid yng ngolwg y beirniaid yng nghystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn cael ei hanfon at Theatr Genedlaethol Cymru a fydd yn ei hanfon ymlaen, ar eu cais, i’r cwmnïau proffesiynol Cymraeg eraill. Lle bo hynny’n ymarferol bosib, cyflwynir y gwaith buddugol am y tro cyntaf fel rhan o raglen yr Eisteddfod Genedlaethol (gyda chefnogaeth Cronfa Goffa Hugh Griffith) gan Theatr Genedlaethol Cymru (gyda chefnogaeth Ystad Lenyddol Gwenlyn Parry) neu unrhyw gwmni theatr proffesiynol arall sy’n gwneud cais.

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon