Canlyniad:
1af Côr Eifionydd — Penrhyndeudraeth
2il Côr BuAnn — Eifionydd
3ydd Meibion Marchan — Rhuthun
Beirniaid: Islwyn Evans, David Leggett a Nia Llewelyn Jones
Unrhyw gyfuniad o leisiau heb fod yn llai nag 20 mewn nifer, i gyflwyno dau ddarn cyferbyniol heb fod yn hwy nag 8 munud, ac i gynnwys darn gan gyfansoddwr o Gymro. Gellid hefyd defnyddio trefniant o alaw werin Gymreig gan gyfansoddwr o Gymro.
Gwobrau:
- Cwpan Miss Menai Williams a Mrs Nesta Davies i’w ddal am flwyddyn a £500
- £300
- £200
(£1,000 Gwobr Goffa Catherine Lloyd Morgan, gynt o Ffair Rhos)
Cyflwynir Medal Goffa Gwilym E Humphreys [Cymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol] i arweinydd y côr buddugol
Ni chaniateir i unrhyw gôr ail-ganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl.
Bydd cystadlu mewn dwy eisteddfod leol rhwng Mai 2022 a Mai 2023 yn rhoi’r hawl i gystadlu yn y gystadleuaeth hon yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023. Wrth gofrestru, rhaid nodi enwau’r Eisteddfodau lleol y cystadlwyd ynddynt.