Beirniaid: Aidan Lang, Buddug Verona, Linda Kitchen ac Iwan Teifion Davies
Cyfeilyddion: Jeffrey Howard
Disgwylir i’r cystadleuwyr baratoi rhaglen heb fod yn hwy na 15 munud. Ystyrir cynnig perfformiad i enillydd yr ysgoloriaethau yn un o eisteddfodau’r dyfodol.
Gwobrau:
- Ysgoloriaeth gwerth £5,000 (£3,000 Ysgoloriaeth W Towyn Roberts; £2,000 Ysgoloriaeth William Park-Jones)
- £3,000 (Cronfa William Park-Jones)
- £1,000 (Cyngor Tref Pwllheli)
- £500 (£200 Eirian Fielding, er cof am ei rhieni, Gwilym a Helen Parry Williams; £100 David James, er cof am ei fam, Dilys James )
Sefydlwyd yr ysgoloriaethau hyn i hyrwyddo cerddoriaeth leisiol i unawdwyr yng Nghymru.
Dyfernir yr ysgoloriaethau i’r cystadleuydd buddugol er mwyn iddo/iddi ddilyn cwrs hyfforddi lleisiol mewn ysgol neu goleg cerdd cydnabyddedig. Bydd yr ysgoloriaethau yn agored i unrhyw berson a anwyd yng Nghymru neu y ganwyd un o’i r/rhieni yng Nghymru, neu unrhyw berson sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru am y 3 blynedd cyn 31 Awst 2023 neu unrhyw berson sy’n siarad neu’n ysgrifennu Cymraeg.
Disgwylir i’r cystadleuwyr baratoi rhaglen heb fod yn hwy na 15 munud. Rhaid i’r rhaglen gynnwys un gân gan gyfansoddwr o Gymro o’r ugeinfed ganrif neu’r ganrif bresennol a chenir pob un o’r caneuon yn Gymraeg. Ni chaniateir newid y dewis gwreiddiol o ganeuon ar ôl 15 Mehefin. Bydd gan yr Eisteddfod gyfeilydd ar gyfer y gystadleuaeth hon ond bydd hawl gan y cystadleuydd, os myn, i gael ei gyfeilydd ei hun.
Bydd hawl gan y panel beirniaid i atal yr ysgoloriaethau neu i’w rhannu rhwng mwy nag un enillydd os bydd galw.
Gweler Rheolau ac Amodau Cyffredinol, rhif 21.
Ystyrir cynnig perfformiad i enillydd yr ysgoloriaethau yn un o eisteddfodau’r dyfodol.