Canlyniad:

1af Seindorf Ieuenctid Beaumaris — Beaumaris
2il Band Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn — Caernarfon

Beirniad: Gary Davies

Hunanddewisiad heb fod yn hwy na 15 munud, a chyda lleiafswm o dair eitem

Gwobrau:

  1. Her-gwpan Ivor Jarvis i’w ddal am flwyddyn a £500
  2. £300
  3. £200

Bydd y band buddugol yn yr adran hon yn derbyn gwahoddiad i gynrychioli Cymru yn Adran Bencampwriaeth o Bencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop y flwyddyn ganlynol. Cynhelir Pencampwriaeth 2024 yn Palanga, Lithwania

Os yw’r band buddugol eisoes wedi sicrhau ei le yn dilyn cystadleuaeth EYBBC y flwyddyn flaenorol, bydd y band yn yr ail safle hefyd yn derbyn gwahoddiad

  1. Rhaid i bob Band Pres Ieuenctid gynnwys offerynnau pres safonol Prydeinig o ran offeryniaeth. Uchafswm aelodaeth pob band yw 50 o chwaraewyr, gan gynnwys offerynwyr yr adran daro
  2. Gall bandiau sydd eisiau cystadlu fod yn fandiau ieuenctid, bandiau ysgol neu'n fandiau sir/rhanbarthol
  3. Dylai chwaraewyr fod yn 21 oed neu’n iau ar 1 Ionawr 2023 (bydd hyn yn sicrhau fod y chwaraewyr i gyd yn gymwys i gystadlu yng nghystadleuaeth yr EYBBC y flwyddyn ganlynol)
  4. Bydd y bandiau'n perfformio rhaglen o gerddoriaeth hunan-ddewisol hyd at 15 munud o hyd
  5. Rhaid i bob rhaglen gynnwys o leiaf tri darn gwahanol, ac mae hawl cynnwys un darn sy'n cynnwys unawdydd o’r band

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon